Trosedd A Chosb
LlGC = NLW

Cymraeg | English

Darlun o gosb gorfforol trwy hongian

Y mae cronfa ddata Trosedd a Chosb yn cynnwys data am droseddau, troseddwyr, a chosb sydd ar gael ymhlith ffeiliau carchar Llys y Sesiwn Fawr yng Nghymru o 1730 hyd diddymu'r llys ym 1830. Gallai'r llys wrando ar bob math o achosion o fân ladrata hyd at deyrnfradwriaeth. Ond, mewn gwirionedd, gwrandawyd ar y mwyafrif llethol o fân ladrata gan y Llysoedd Chwarter. Mae cofnodion y llysoedd yma yng ngofal archifdai sirol Cymru. Nid yw cofnodion y Sesiwn Fawr yn cynnwys achosion a wrandawyd yn sir Fynwy oherwydd fod y sir honno yn rhan o gylchdaith brawdlys Rhydychen. Mae cofnodion y gylchdaith hon yn yr Archifau Cenedlaethol yn Kew. Ceir, fodd bynnag, nifer o achosion yn ymwneud â sir Fynwy yn y gronfa ddata.

Cymorth Chwilio | Chwilio'r Gronfa